Melvin Rowlands, Llangefni

John O Williams a’i Fab, Biwmares

Gwasanaethau Angladdau

Gadewch i Ni Roi Help Llaw

Pan fyddwch angen i’ch anwylyd gael yr urddas a’r parch mwyaf, rydym yn deall ac yn gofalu.

Proffesiynol a sensitif

Rydym yn trefnu angladdau sy’n adlewyrchu a chynnwys dymuniadau’r unigolyn. 

Trefniadau

Byddwn yn eich tywys drwy’r camau cychwynnol ac yn rhoi cyngor ar bethau eraill y gallai fod angen i chi feddwl amdanynt pan fydd rhywun agos atoch yn marw.

Claddu ac Amlosgi

P’un a fyddwch yn dewis claddu neu amlosgi, byddwn yno i wneud yr holl drefniadau ar eich rhan.

Gwasanaethau Angladd

Gall fod yn anodd trefnu angladd. Rydym yma i’ch helpu, eich cynorthwyo a chynghori i roi teyrnged unigryw.

Cefnogaeth Galar

Pan fyddwch angen gwasanaeth angladd 24 awr, mae ein busnes gofalgar, teuluol yma i gynnig cefnogaeth a chyngor i chi yn eich amser o angen.

Taith Fideo o’n Safle yn Llangefni

Mae ein safle pwrpasol sydd â’r holl offer wedi’i gynllunio i gynnig amgylchedd tawel, myfyriol a gofalgar ar adeg pan fyddwch ei angen fwyaf. Beth am edrych ar y fideo isod i weld beth allwn ni ei gynnig.

Amdanom ni

Rydym yn trefnu angladdau sy’n adlewyrchu ac yn cynnwys dymuniadau’r unigolyn, teulu a ffrindiau. Rydym yn gallu rhoi cyngor ar amlosgiadau a chladdedigaethau, dewis eirch a threfniadau blodau. Gallwn hyd yn oed drefnu i gael y gwasanaeth gartref neu leoliad addas arall, yn lle gwasanaeth arferol yng nghapel yr amlosgfa. Beth bynnag rydych chi’n ei ddewis, gallwn eich helpu i drefnu’r cyfan, yn lleoliad addas ar gyfer dod at eich gilydd wedyn hyd yn oed, gydag unrhyw anghenion arlwyo a allai fod eu hangen.

 

Felly p’un a yw’n angladd syml, yn angladd traddodiadol, yn angladd gwahanol neu’n achlysur mawr, gallwn roi gwasanaeth cwbl bersonol a hollol bwrpasol i chi.

Ein Lleoliadau

Gyda dau safle yn Llangefni a Biwmares, rydym mewn lleoliad da i helpu a darparu ar gyfer anghenion trigolion Ynys Môn a thu hwnt. Mae gennym ni safleoedd sy’n cynnig amgylchedd heddychlon a myfyriol, i barchu ac anrhydeddu bywydau a dymuniadau eich anwyliaid.

Llangefni (Capel Gorffwys)

Minafon, Ffordd Glanhwfa, LL77 7FE

Llangefni (Cerrig Coffa)

Minafon, Stryd yr Eglwys, LL77 7DU

Biwmares

29 Stryd Yr Eglwys, LL58 8AP

Gadewch i Ni Roi Help Llaw

Pan fyddwch angen i'ch anwylyd gael yr urddas a'r parch mwyaf, rydym yn deall ac yn gofalu.

Ffoniwch Ni

Llangefni: 01248 723111
Biwmares: 01248 810642
Symudol: 07778 548000

Dewch i’n Gweld

Minafon (Cerrig Coffa) Stryd yr Eglwys, Llangefni,  LL77 7DU

Minfon (Capel Gorffwys) Ffordd Glanhwfa Llangefni, LL77 7FE

29 Stryd Y Castell, Biwmares, LL58 8AP

E-bostiwch Ni