Melvin Rowlands, Llangefni
John O Williams a’i Fab, Biwmares
Amdanom ni
Rydym ni gyda chi bob cam o’r ffordd
Mae colli rhywun annwyl yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn ei wynebu yn ein bywydau. Mae’n gyfnod anodd a’r peth olaf sydd ei angen arnoch chi yw’r baich o drefnu’r angladd. Dyna pam, gyda’r Trefnydd Angladdau Melvin Rowlands, rydym yn cynnig gwasanaeth sy’n darparu pob agwedd ar ofal a threfniadau angladd gan ddechrau o’r eiliad y byddwch yn cysylltu â ni. Rydym yn credu mewn rhoi gwasanaeth i helpu i sicrhau bod trefniadau mor ddi-straen â phosibl, gan eich gadael yn rhydd i fod gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.
Pan fyddwch chi angen gwasanaeth angladd 24 awr ar Ynys Môn, trowch at y Trefnydd Angladdau Melvin Rowlands yn y lle cyntaf. Rydym wedi ein lleoli yn Llangefni ac rydym yn darparu ar gyfer pob teulu o’r ardaloedd cyfagos, gan eu helpu gyda’u holl drefniadau angladd yn ystod y cyfnod anodd yma.
Mae ein holl staff wedi eu hyfforddi’n llawn, yn broffesiynol, yn sensitif ac wir eisiau eich helpu. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd eich galwadau’n cael eu trin yn gwbl gyfrinachol. Gallwn hefyd drefnu ymweliad cartref os na allwch ddod atom ni. Does dim byd yn ormod o drafferth ac rydym yn ymfalchïo yn ein gwasanaeth, gan deimlo’n freintiedig i gael ein dewis i fynd â’r un a fu’n agos atoch ar eu taith olaf. Ein nod yw cyflawni eich ceisiadau gyda’r urddas mwyaf, gan roi sylw i’r manylion.
Mae ein staff wedi eu hyfforddi’n dda ac yn llawn cydymdeimlad, felly gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod mewn dwylo medrus pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Ein nod yw cadw safon ein gwasanaethau’n uchel a’n prisiau’n gystadleuol iawn.
P’un a ydych chi eisiau gwybod mwy am beth y gallwn ei gynnig i chi, neu eisiau darganfod mwy am ein prisiau cystadleuol, rhowch alwad i ni heddiw.
Gadewch i Ni Roi Help Llaw
Pan fyddwch angen i'ch anwylyd gael yr urddas a'r parch mwyaf, rydym yn deall ac yn gofalu.
Ffoniwch Ni
Biwmares: 01248 810642
Symudol: 07778 548000
Dewch i’n Gweld
Minfon (Capel Gorffwys) Ffordd Glanhwfa Llangefni, LL77 7FE
29 Stryd Y Castell, Biwmares, LL58 8AP