Melvin Rowlands, Llangefni

John O Williams a’i Fab, Biwmares

Cerrig Coffa

Ein Cerrig Coffa Hardd wedi’u saernïo â Llaw

Mae cofeb yn symbol parhaol o goffâd. Felly, mae’n bwysig iawn bod y dyluniad yn cael ei ddewis yn ofalus. Dyma’r rhodd olaf y byddwch chi’n ei rhoi i’r un rydych chi’n ei garu ac yn ei golli.

Mae ein holl gerrig coffa wedi’u saernïo â llaw ar y safle gan ein saer maen arbenigol, sy’n golygu y gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwch yn cael yr ansawdd gorau oll o ran deunyddiau a chrefftwaith.

Dewis Carreg Goffa

Mae ein crefftwyr profiadol a medrus yn gallu gweithio gyda’r holl ddeunyddiau uchod, felly, beth bynnag fo’ch dewis o ddeunydd, dyluniad ac arysgrif, gallwn sicrhau y cynhyrchir cofeb o ansawdd uchel sy’n cwrdd â’ch gofynion.

Mae cofeb yn symbol parhaol o goffâd. Felly, mae’n bwysig iawn bod y dyluniad yn cael ei ddewis yn ofalus. Dyma’r rhodd olaf y byddwch chi’n ei rhoi i’r un rydych chi’n ei garu ac yn ei golli.

Rydym wedi dylunio’r wefan yma gan gynnwys dim ond rhai o’n dewis eang o ddyluniadau, deunyddiau a cherfiadau i weddu i’ch gofynion. Mae’r holl ddeunyddiau yn farmor, gwenithfaen a charreg naturiol o’r ansawdd gorau. Gellir cynnwys unrhyw ddyluniad yn yr holl ddeunyddiau, a bydd ein staff cyfeillgar a phrofiadol yn falch o helpu gyda’ch dewis, a rhoi cyngor ar eich arysgrif. Mae gwasanaeth dylunio llawn ar gyfer cofebion untro a phersonol ar gael, ynghyd ag ystod eang o ddyluniadau safonol. Ein profiad yn y busnes coffa yw eich gwarant y cewch wasanaeth proffesiynol a gofalgar cyflawn.

Gwenithfaen

Nid oes dewis gwell na gwenithfaen bythol, oherwydd ei briodweddau parhaus. Bydd carreg goffa o wenithfaen yn cadw ei harddwch heb ddirywiad na hindreulio. Ar gael mewn amrywiaeth eang o liwiau, fel y dangosir ar y wefan hon.

Marmor

Dyma’r dewis a ddefnyddir yn fwyaf helaeth. Mae marmor yn ddeunydd traddodiadol a ddefnyddir ar gyfer cerflunio a cherfio, sy’n berffaith os dewiswch gofeb fwy addurniadol. Mae’n lliw glaswyn a gyda gwythiennau, ac ychydig o amherffeithrwydd sydd iddo

Carreg Naturiol

Defnyddir cerrig naturiol yn fwyaf eang mewn mynwentydd lle na chaniateir marmor a gwenithfaen. Mae detholiad amrywiol ar gael, gan gynnwys carreg Nabresina, Portland ac Efrog. Mae’n lliw llwydfelyn yn bennaf.

Gadewch i Ni Roi Help Llaw

Pan fyddwch angen i'ch anwylyd gael yr urddas a'r parch mwyaf, rydym yn deall ac yn gofalu.

Ffoniwch Ni

Llangefni: 01248 723111
Biwmares: 01248 810642
Symudol: 07778 548000

Dewch i’n Gweld

Minafon (Cerrig Coffa) Stryd yr Eglwys, Llangefni,  LL77 7DU

Minfon (Capel Gorffwys) Ffordd Glanhwfa Llangefni, LL77 7FE

29 Stryd Y Castell, Biwmares, LL58 8AP

E-bostiwch Ni