Melvin Rowlands, Llangefni
John O Williams a’i Fab, Biwmares
Profedigaeth
Pan fydd Profedigaeth
Mae’n arferol i bobl fod yn ansicr beth i’w wneud ar ôl y brofedigaeth. Byddwn yn mynd â chi drwy’r camau cychwynnol ac yn rhoi cyngor ar bethau eraill y gallai fod angen i chi feddwl amdanynt pan fydd rhywun yn marw.
Cysylltwch â ni cyn gynted ag y bydd y Meddyg yn cadarnhau y bydd yn rhoi’r Dystysgrif Achos Marwolaeth.
Ateb eich Cwestiynau
Mae colli rhywun annwyl yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn ei wynebu yn ein bywydau. Mae’n gyfnod anodd a’r peth olaf sydd ei angen arnoch chi yw’r baich o drefnu’r angladd. Dyna pam, gyda’r Trefnydd Angladdau Melvin Rowlands, rydym yn cynnig gwasanaeth sy’n darparu pob agwedd ar ofal a threfniadau angladd gan ddechrau o’r eiliad y byddwch yn cysylltu â ni.
Quisque velit nisi, pretium ut lacinia in, element.adsfadsasdfasdfa
Praesent sapien massa, convallis a pellentesque nec, egestas non nisi. Mauris blandit aliquet elit, eget tincidunt nibh pulvinar a. Vestibulum ante ipsum primis in faucibus orci luctus et ultrices posuere cubilia Curae; Donec velit neque, auctor sit amet aliquam vel, ullamcorper sit amet ligula. Vestibulum ac diam sit amet quam vehicula elementum sed sit amet dui.
Cofrestru Marwolaeth
Pryd i gofrestru’r farwolaeth
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i chi gofrestru’r farwolaeth o fewn pum diwrnod ac mae’n well ymweld â’r Swyddfa Gofrestru yn yr ardal lle bu farw’r unigolyn. Gall hyn helpu i osgoi oedi cyn cael y dogfennau angenrheidiol.
Os yw’r Crwner yn gysylltiedig, byddwch yn cael gwybod pryd i gofrestru’r farwolaeth.
Gallwn eich cynghori ar y drefn o gofrestru marwolaeth. Isod mae canllaw a all helpu, ond mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Gall y bobl ganlynol gofrestru marwolaeth:
- Unrhyw berthynas i’r unigolyn sydd wedi marw
- Unrhyw unigolyn a oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
- Unigolyn sy’n byw yn y tŷ lle bu farw’r unigolyn
- Yr un sy’n trefnu’r angladd (ni all hwn fod yn Drefnydd Angladdau)
Bydd cyfweliad syml gyda’r Cofrestrydd i gofrestru’r farwolaeth yn digwydd yn y Swyddfa Gofrestru.
Dylech fynd â’r Dystysgrif Feddygol a roddwyd gan y meddyg sy’n dangos achos y farwolaeth, a Cherdyn Meddygol yr ymadawedig, gyda chi.
Byddwch hefyd angen y wybodaeth ganlynol am yr ymadawedig:
- Enw llawn
- Statws priodasol
- Dyddiad Geni
- Man Geni
- Galwedigaeth
- Enw cyn priodi (os ydy hi’n ddynes ac yn briod)
- Enw’r Priod
- Dyddiad Geni’r Priod
- Galwedigaeth y Priod
Bydd y cofrestrydd yn rhoi’r canlynol i chi:
- Tystysgrif Cofrestru Marwolaeth, y dylech ei llenwi a’i hanfon i swyddfa nawdd cymdeithasol yr ardal lle bu farw’r unigolyn
- Tystysgrif Claddu neu Amlosgi (sy’n cael ei galw’n ffurflen werdd), y dylech ei rhoi i’ch trefnydd angladdau cyn gynted â phosibl
- Gall y Cofrestrydd hefyd roi copïau ardystiedig o gofnod marwolaeth, bydd angen y rhain arnoch at ddibenion swyddogol, i’w rhoi i’r Yswirwyr, cau Cyfrifon Banc a Chynlluniau Pensiwn ac ati.
(Byddwch yn ymwybodol y codir tâl gan y Cofrestrydd am y copïau ardystiedig)
Gofalu am yr Ymadawedig
Unwaith y byddwch wedi trosglwyddo’r ymadawedig i’n gofal, byddwn yn gofalu amdanynt gyda pharch a sensitifrwydd. Byddant yn gorffwys gyda ni tan ddiwrnod yr angladd neu, os yw’n well gennych, gallant orffwys gartref neu yn yr eglwys, os caniateir hyn.
We recommend embalming because it delays the natural processes that take place after death. This is particularly important if you want to visit the person in the chapel of rest.
Rydym yn argymell balmeiddio oherwydd ei fod yn gohirio’r prosesau naturiol sy’n digwydd ar ôl marwolaeth. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych am ymweld â’r unigolyn yn y capel gorffwys.
Rydym yn golchi ac yn gwisgo pawb yn ein gofal. Mae rhai pobl yn hoffi rhoi eitemau i ni, fel eu hoff wisg.
Bydd ein trefnwyr angladdau yn cyflawni eich dymuniadau yn ofalus ac yn barchus ond, os hoffech ein helpu i ofalu am eich anwylyd, rhowch wybod i ni.
Gweld yr Ymadawedig
Mae rhai pobl yn cael cysur o weld yr un sydd wedi marw ac yn hoffi dod ag anrheg bach neu lun i’w roi yn yr arch. Mae eraill yn ei chael hi’n anodd gweld rhywun roeddent yn ei garu bellach wedi marw.
Mae’n ddewis personol mewn gwirionedd ac rydym yn anelu at helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn.
Dweud wrth eraill am y Farwolaeth
Efallai y byddwch am ddweud wrth bobl am y farwolaeth a manylion yr angladd drwy roi cyhoeddiad mewn papur newydd, yn lleol neu’n genedlaethol. Gallwn eich helpu gyda drafftio ac anfon cyhoeddiad marwolaeth i bapur newydd.
Gallwn hefyd gynorthwyo ar ôl yr angladd drwy roi neges yn y papur newydd i ddiolch i’r rhai a ddaeth ac a anfonodd flodau neu roddion. Gallwn wneud copïau i chi eu cadw os dymunwch.
Gadewch i Ni Roi Help Llaw
Pan fyddwch angen i'ch anwylyd gael yr urddas a'r parch mwyaf, rydym yn deall ac yn gofalu.
Ffoniwch Ni
Biwmares: 01248 810642
Symudol: 07778 548000
Dewch i’n Gweld
Minfon (Capel Gorffwys) Ffordd Glanhwfa Llangefni, LL77 7FE
29 Stryd Y Castell, Biwmares, LL58 8AP